-
Parc Bwyd Sir Benfro Amaethyddiaeth a chynhyrchu bwyd gwerth uchelNod y cynigion uchelgeisiol hyn yw creu canolbwynt o ansawdd uchel yn Llwynhelyg ger Hwlffordd, a fydd yn dod yn gartref i nifer o gynhyrchwyr bwyd.
Sir Benfro -
Bremenda Isaf Amaethyddiaeth a chynhyrchu bwyd gwerth uchelMae Bremenda Isaf yn gynllun gwerth £5 miliwn i drawsnewid Fferm Sirol yn ganolfan ragoriaeth arloesi bwyd flaenllaw, carbon isel ar gyfer De Orllewin Cymru, gan gyfuno ffermio adfywiol, prosesu a chydgrynhoi bwyd lleol, twf y gadwyn gyflenwi ac Academi Sgiliau.
Sir Gaerfyrddin -
Ailddatblygu Campws Sir Gaerfyrddin, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant Traws-sectorAilddychmygu campws Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin er mwyn sicrhau cyfleusterau addysg o’r radd flaenaf sy’n addas ar gyfer y dyfodol.
Sir Gaerfyrddin -
Porth Copr Traws-sectorMae Porth Copr yn adfywiad gwerth £150 miliwn sy’n creu chwarter defnydd cymysg bywiog wrth ymyl Arena Abertawe, gan ddarparu hyd at 400,000 troedfedd sgwâr o swyddfeydd Gradd A a mannau gwaith hyblyg, ynghyd â chyfleusterau dysgu, hamdden, manwerthu a chartrefi o amgylch mannau cyhoeddus newydd wedi’u tirlunio yng nghanol y ddinas.
Abertawe -
Parc Felindre Traws-sectorMae Parc Felindre yn cynnig cyfle datblygu cyffrous i ddiwydiannau sy’n ymwneud â gweithgynhyrchu uwch-dechnoleg ac Ymchwil a Datblygu dyfu a datblygu, gan elwa ar yr agosrwydd at ddinas fywiog, gweithlu medrus a chysylltedd rhagorol.
Abertawe -
Safle Cyflogaeth Strategol Dwyrain Cross Hands Traws-sectorGan dyfu o lwyddiant buddsoddiad yn y Parthau Bwyd a Busnes, mae Dwyrain Cross Hands yn cynnwys tua 10 hectar o leiniau sy’n barod i’w datblygu.
Sir Gaerfyrddin -
Stad Ddiwydiannol Beechwood Traws-sectorMae'r cynnig yn cynnwys pum uned ddiwydiannol ar deras sengl sy’n hynod gynaliadwy. Mae gan bob uned ei hardal waith, swyddfeydd a chyfleusterau staff sy'n cyflawni'r agenda datgarboneiddio ac yn gweithredu ar garbon sero-net.
Sir Gaerfyrddin -
Cwm Gwyrdd Nantycaws EgniMenter economi werdd arloesol yw CWM Gwyrdd Nant-y-caws sydd yn adeiladu ar gryfderau presennol mewn adfer adnoddau, ynni adnewyddadwy a bioamrywiaeth, tra'n creu lle newydd ar gyfer mentrau carbon isel ac adfer amgylcheddol.
Sir Gaerfyrddin -
Porthladd Rhydd Celtaidd EgniMae’r Porthladd Rhydd Celtaidd ar agor i fusnes a bydd yn darparu llwybr carlam ar gyfer economi sero net Cymru, gan gynhyrchu dros 16,000 o swyddi newydd, gwyrdd a hyd at £5.5 biliwn o fuddsoddiad newydd.
Sir Benfro -
Prosiect CO2 Aberdaugleddau EgniMae prosiect CO2 Aberdaugleddau yn brosiect dal a chludo carbon ar gyfer Cymru a’r Deyrnas Unedig.
Sir Benfro -
Ardal Forol Doc Penfro EgniMae menter Ardal Forol Doc Penfro yn brosiect trawsnewidiol i Gymru a gweddill y DU gan greu cyfleoedd clir i ddiwydiant ar arfordir gorllewinol Cymru.
Sir Benfro -
Hwb Ynni a Thrafnidiaeth a Datblygu Porthladd Abertawe EgniBuddsoddiad cam cynnar ym MhDoc Tywysog Cymru a Ffordd Fabian i ddarparu canolfan trafnidiaeth ynni glân, carbon isel ac i ddatgloi twf diwydiannol dan arweiniad y porthladd sy’n cyd-fynd â sero net.
Abertawe -
Safleoedd Strategol y Glannau - Parth Buddsoddi Port Talbot a Bae Abertawe EgniMae Safleoedd Strategol y Glannau yn cynnig cyfle mawr i gyfalaf preifat ym meysydd ynni glân a thwf diwydiannol, wedi’i alluogi gan gymhellion Porthladd Rhydd Celtaidd ac asedau porthladd dŵr dwfn.
Castell Nedd Port Talbot -
Canolfan Ddarganfod Oriel y Parc Economi Profiad: Diwylliant, Hamdden a LletygarwchMae Oriel y Parc yn cael ei hail-ddychmygu fel porth carbon isel i Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro—gan ddod â phobl, diwylliant a natur ynghyd.Sir Benfro -
Glannau'r Ddinas Economi Profiad: Diwylliant, Hamdden a LletygarwchBydd ardal newydd ar lan y dŵr ar ddiwedd Ffordd i’r Môr yn estyn canol dinas Abertawe hyd at y traeth, wedi’i hangori gan Ganolfan Ddinesig cymysg ei defnydd wedi’i hail-ddychmygu, gan ddarparu mannau masnachol newydd, cartrefi ac atyniadau hamdden fel cyrchfan gynhwysol drwy gydol y flwyddyn.
Abertawe -
Wildfox Resorts - Dyffryn Afan Economi Profiad: Diwylliant, Hamdden a LletygarwchMae Wildfox Resorts yn gyrchfan antur a lles gwerth £174m sydd wedi’i chynllunio ar gyfer dros 1,300 erw yn Nyffryn Afan, gan ddarparu 300 o lodges ynghyd â chyfleusterau antur a lles, gyda chaniatâd cynllunio wedi’i sicrhau a gwaith galluogi ar y gweill.
Castell Nedd Port Talbot -
Pentre Awel Gwyddorau Bywyd a LlesMae Pentre Awel yn ddatblygiad arloesol sydd wedi'i leoli ar safle 83 erw yn Llanelli, Sir Gaerfyrddin.
Sir Gaerfyrddin -
Canolfan ar gyfer Deunyddiau Lled-ddargludyddion Integreiddiol Gweithgynhyrchu ClyfarBuddsoddiad o £55 miliwn gan Lywodraethau’r DU a Chymru a diwydiant: ffowndri beilot ar raddfa ddiwydiannol sy’n pontio ymchwil a gweithgynhyrchu yng nghlwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd cyntaf Ewrop.
Abertawe -
Maes Awyr Hwlffordd TrafnidiaethMae Maes Awyr Hwlffordd wedi’i leoli ger cefnffordd yr A40, dim ond dwy filltir i’r gogledd o Hwlffordd.
Sir Benfro -
Trecwn TrafnidiaethMae Trecwn wedi ei leoli tua 3 milltir i'r de o Abergwaun yng Ngogledd Sir Benfro. Roedd y safle yn arfer bod yn storfan ar gyfer Arfau'r Llynges Frenhinol ac mae’n ymestyn dros 1000 o erwau a gellir ei gyrraedd ar hyd ffordd breifat oddi ar yr A40.
Sir Benfro -
Canolfan Rhagoriaeth Rheilffyrdd Byd-eang TrafnidiaethMae GCRE yn gyfleuster arloesi rheilffyrdd ac ynni yn Nyffryn Dulais, sy’n darparu profion ac Ymchwil a Datblygu unigryw yn Ewrop ar safle 700 hectar, gan gynnwys rheilffordd gyntaf y DU sy’n gweithredu’n sero net, gyda dau gylch prawf trydaneiddiedig o 7km.
Castell Nedd Port Talbot