Croeso i Dde-orllewin Cymru – y rhanbarth sydd â sylfeini cadarn a dyfodol cyffrous.
O dan un corff arweinyddiaeth strategol, mae Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru yn dwyn ynghyd bedwar awdurdod lleol, sef Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe, ynghyd â dau Awdurdod Parc Cenedlaethol, Bannau Brycheiniog ac Arfordir Sir Benfro, i gyflawni newid beiddgar, strategol.
Trwy gydweithio mewn meysydd fel datblygu economaidd rhanbarthol, ynni rhanbarthol, trafnidiaeth ranbarthol, a chynllunio strategol, rydym yn creu rhanbarth cydlynol sy'n barod at y dyfodol. Bydd hyn yn creu gwell seilwaith a chlystyrau sectorol cryf, gan ddarparu canlyniadau gwell i'n cymunedau, busnesau a'r amgylchedd.