Mae'r Gronfa Twf Lleol newydd yn cael ei hariannu gan Lywodraeth y DU drwy Lywodraeth Cymru i dargedu buddsoddiad cyhoeddus at flaenoriaethau strategol allweddol ar lefel genedlaethol a rhanbarthol i ysgogi twf economaidd.

Ar ben hyn, mae Cyd-bwyllgor Corfforaethol de-orllewin Cymru bellach yn galw am fynegiannau o ddiddordeb ar gyfer cynlluniau cyfalaf mwy (dros £500,000) gydag effaith economaidd ranbarthol ar weithgareddau sy'n ychwanegol at y rhai a gynhwysir yn ein cyflwyniad Angor. Efallai y bydd cyllid refeniw cyfyngedig ar gael hefyd. Ni wahoddir dyblygu'r ddarpariaeth Angor. Os yw eich prosiect ar raddfa lai, fe'ch gwahoddir i fwrw golwg ar ystod o opsiynau cyllido sydd ar gael trwy ein darpariaeth angor rhanbarthol.

Rhaid i brosiectau gael eu cwblhau erbyn 31 Rhagfyr 2028.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno Mynegiannau o Ddiddordeb yw 31 Hydref 2026.

Cwblhewch ffurflen ar wahân ar gyfer pob prosiect.

Wedi ei ariannu gan:

Funded by UK Gov-stacked_Duo_Welsh_Black.png  WG_positive_40mm jpg - logo.jpg