Mae Cyd-bwyllgorau Corfforedig yn ddarostyngedig i Safonau'r Gymraeg, fel y mae'r cynghorau cyfansoddol a sefydliadau gwasanaeth cyhoeddus eraill yng Nghymru.
Diwygiwyd Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 gan Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Diwygio Atodlen 6 Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011) 2021, gan ychwanegu Cyd-bwyllgorau Corfforedig at y rhestr o gyrff a chategorïau o gyrff y mae'n rhaid iddynt gydymffurfio â'r safonau.
Mae'r safonau'n gosod disgwyliadau clir ar sut mae'n rhaid i Gyd-bwyllgorau Corfforedig ddarparu gwasanaethau yn Gymraeg i'n partneriaid, rhanddeiliaid a'r cyhoedd, yn ogystal â sut mae'n rhaid i ni hyrwyddo'r defnydd o'r iaith drwy ein gwasanaethau.
Ein Hysbysiad Cydymffurfio
Mae Safonau'r Gymraeg y mae'n ofynnol i Gyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru eu bodloni wedi'u rhestru yn ein Hysbysiad Cydymffurfio.
Pa weithgareddau mae'r safonau'n effeithio arnynt?
Mae 176 o safonau sy'n cwmpasu ystod eang o weithgareddau, ac maent i gyd wedi'u grwpio'n bum maes allweddol:
• Safonau cyflawni gwasanaeth
• Safonau llunio polisi
• Safonau gweithredol
• Safonau hyrwyddo
• Safonau cadw cofnod
Nid oes rheidrwydd ar Gomisiynydd y Gymraeg i'w gwneud yn ofynnol i'r Cyd-bwyllgor Corfforedig gydymffurfio â phob safon, ond bydd y rhan fwyaf yn berthnasol.
Hefyd, mae dyletswydd statudol ar Gomisiynydd y Gymraeg i fonitro cydymffurfiaeth sefydliadau â Safonau'r Gymraeg, ac i ymchwilio i gŵynion ac achosion o fethu cydymffurfio. Mae grym gan y Comisiynydd i osod camau gorfodi, camau cyfreithiol a dirwyon.
I gael rhagor o wybodaeth am Safonau'r Gymraeg yn y Cyd-bwyllgor Corfforedig, cysylltwch â info@southwestcjc.gov.wales.