711,000
poblogaeth
285,000
swyddi
28,080
busnesau
£6bn+
cyfleoedd ar y gweill
De-orllewin Cymru: Rhanbarth sy'n Barod am Dwf
A ydych chi eisiau sefydlu, adleoli, neu ehangu eich busnes? A ydych chi’n chwilio am y lle gorau nesaf i fuddsoddi mewn prosiectau a chwmnïau? Yna, mae'n rhaid ichi ystyried Rhanbarth De Orllewin Cymru oherwydd bod ganddo gymaint i'w gynnig. Gan fod rhaglen adfywio economaidd barhaus y rhanbarth wedi hen ddechrau, a'i fod yn cynnig ansawdd bywyd anhygoel a chyfleoedd buddsoddi helaeth, mae'r rhanbarth hwn ar fin gweld twf aruthrol.
Mae tair blaenoriaeth allweddol wrth wraidd ein cynllun cyflawni economaidd: sefydlu’r rhanbarth fel arweinydd y DU ym maes ynni adnewyddadwy, adeiladu sylfaen fusnes gref, wydn ac un sydd wedi’i gwreiddio, a sicrhau twf yn y cynnig ‘profiad’ a’i gynnal. Drwy ddilyn y blaenoriaethau hyn rydym yn creu economi gynaliadwy a gwydn a fydd yn ffynnu am flynyddoedd i ddod.
Ble rydym ni?
Wedi’i lleoli yn ardal ddeinamig a bywiog De-orllewin Cymru, sy’n cynnwys awdurdodau lleol Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe. Mae’r rhanbarth hwn wedi’i leoli’n strategol gyda chysylltedd rhagorol â phrif ddinasoedd y DU a marchnadoedd rhyngwladol, diolch i’w seilwaith trafnidiaeth cadarn, gan gynnwys cysylltiadau ffordd, rheilffordd a môr.
Mae’r rhanbarth yn ymfalchïo mewn tirwedd naturiol syfrdanol, o arfordir prydferth Penrhyn Gŵyr i fryniau tonnog Bannau Brycheiniog, gan ei wneud yn gyrchfan ddeniadol ar gyfer busnes a hamdden fel ei gilydd. Gyda threftadaeth ddiwylliannol gyfoethog, cymuned fusnes ffyniannus, ac ymrwymiad i arloesi a thwf cynaliadwy, mae rhanbarth De-orllewin Cymru yn cynnig cyfleoedd eithriadol ar gyfer buddsoddi mewnol.
Talent a Sgiliau
Mae rhanbarth De Orllewin Cymru yn gartref i weithlu medrus iawn ac amrywiol, wedi’i ysgogi gan sylfaen addysgol gref a diwylliant o arloesi.
Mae’r rhanbarth yn cynnwys nifer o brifysgolion a cholegau enwog, gan gynnwys Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, sy’n cynhyrchu llif cyson o raddedigion mewn sectorau allweddol megis peirianneg, ynni, gwyddorau bywyd, technoleg ddigidol, a diwydiannau creadigol.
Mae ein gweithlu’n cael ei nodweddu gan ei addasrwydd, ei arbenigedd technegol, a’i ysbryd entrepreneuraidd, gan ei wneud yn barod i ateb gofynion busnesau modern.
Yn ogystal, mae’r rhanbarth yn cynnig nifer o raglenni hyfforddi a datblygu i sicrhau bod sgiliau’n cael eu gwella’n barhaus a bod twf proffesiynol yn cael ei gefnogi. Mae’r rhaglen Sgiliau a Thalent yn darparu ateb rhanbarthol ar gyfer nodi a chyflwyno’r gofynion sgiliau a hyfforddi ar gyfer prosiectau buddsoddi, gyda ffocws penodol ar anghenion presennol a gofynion y dyfodol mewn sectorau blaenoriaethol gan gynnwys Iechyd a Llesiant, Gweithgynhyrchu Clyfar, Adeiladu Gwyrdd, Ynni a Digidol.
Gyda ymrwymiad i feithrin talent a chefnogi dysgu gydol oes, mae Rhanbarth De Orllewin Cymru yn lleoliad delfrydol i fusnesau sy’n chwilio am fantais gystadleuol drwy weithlu talentog a llawn cymhelliant.
Cysylltedd
Mae rhanbarth De Orllewin Cymru yn cynnig cysylltedd eithriadol, gan ei wneud yn lleoliad delfrydol i fusnesau sy’n dymuno cael mynediad at farchnadoedd cenedlaethol a rhyngwladol. Mae’r rhanbarth yn cael ei wasanaethu’n dda gan rwydwaith trafnidiaeth gynhwysfawr, gan gynnwys priffyrdd mawr fel traffordd yr M4, sy’n darparu cysylltiadau uniongyrchol â Llundain a dinasoedd allweddol eraill yn y DU.
Mae gwasanaethau rheilffordd yn cysylltu’r rhanbarth â phrif ganolfannau, gyda threnau rheolaidd i Gaerdydd, Bryste, ac ymhellach. Ar gyfer teithio rhyngwladol, mae Maes Awyr Caerdydd o fewn cyrraedd hawdd, gan gynnig hediadau i nifer o gyrchfannau ledled Ewrop ac ymhellach i ffwrdd. Yn ogystal, mae porthladdoedd y rhanbarth, gan gynnwys Aberdaugleddau, Doc Penfro, Abertawe a Phort Talbot, yn hwyluso masnach forwrol effeithlon.
Gyda seilwaith digidol uwch, gan gynnwys band eang cyflym ar draws y rhanbarth a buddsoddiad parhaus mewn technoleg 5G, mae Rhanbarth De Orllewin Cymru yn sicrhau bod busnesau’n aros yn gysylltiedig yn economi ddigidol heddiw. Mae’r cysylltedd cadarn hwn yn cefnogi gweithrediadau di-dor ac yn agor byd o gyfleoedd ar gyfer twf ac ehangu.
Ein nodau
-
1
DenuDenu a sicrhau cyllid gan fuddsoddwyr lleol a rhyngwladol i hyrwyddo twf a datblygiad economaidd yn y rhanbarth.
-
2
AdnabodNodi ac ariannu prosiectau arloesol ac effeithiol sy'n cyd-fynd â nodau economaidd a chymdeithasol y rhanbarth. -
3
CynhyrchuCynhyrchu enillion deniadol i fuddsoddwyr, tra hefyd yn creu effaith economaidd a chymdeithasol gadarnhaol i'r ranbarth a'i thrigolion.
-
4
CefnogiDarparu cefnogaeth ac adnoddau i berchnogion prosiectau ac entrepreneuriaid, i'w helpu i gyflawni eu nodau a thyfu eu busnesau.
-
5
SefydluSefydlu partneriaethau gyda sefydliadau cymunedol, asiantaethau'r llywodraeth a rhanddeiliaid eraill, er mwyn sicrhau prosiectau llwyddiannus.
-
6
CyfrannuCyfrannu at enw da'r rhanbarth fel canolbwynt ar gyfer arloesi, entrepreneuriaeth a datblygu cynaliadwy.
Gyrru Momentwm Trwy Fuddsoddiad Mawr
Mae’r momentwm eisoes wedi’i roi ar waith gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe. Dyma fenter drawsnewidiol gwerth £1.2 biliwn, sy’n sbarduno arloesi a chydweithio ledled y rhanbarth. Ar sail cyfleoedd ariannu newydd o'r Gronfa Ffyniant Gyffredin a'r Gronfa Twf Lleol, mae'r paratoadau wedi eu gwneud ar gyfer twf a ffyniant hirdymor.
Mantais Porthladd Rhydd Celtaidd
Mae'r Celtic Freeport, a ddynodwyd yn ddiweddar yn Aberdaugleddau a Phort Talbot yn rhoi mantais unigryw i fusnesau, gan gynnig buddion treth a gwell cyfleoedd ar gyfer masnach. Bydd y porthladd rhydd yn gatalydd ar gyfer gweithgaredd economaidd ac yn denu buddsoddiad, gan gryfhau enw da cynyddol y rhanbarth fel cyrchfan fusnes o’r radd flaenaf.
Ansawdd Bywyd Eithriadol
Ond nid yw bywyd yn ymwneud â gwaith yn unig. Mae Rhanbarth De-orllewin Cymru yn cynnig ansawdd bywyd eithriadol. Dychmygwch eich hun yn mwynhau traethau syfrdanol fel Three Cliffs, Barafundle neu Fae Rhosili, yn cymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored cyffrous, ac yn archwilio’r tirweddau trawiadol sy’n ein hamgylchynu.
Yn gartref i’r Elyrch, y Scarlets a’r Gweilch, mae digon o gyfleoedd i gefnogi timau’r rhanbarth gyda ffrindiau a theulu. Ac er bod costau byw’n debygol o barhau’n uchel yn y dyfodol agos, mae Rhanbarth De-orllewin Cymru yn cynnig gwell gwerth am arian na llawer o rannau eraill o’r DU.
Lle Gwych i Fuddsoddi, Gweithio a Byw
Felly, p’un a ydych yn fuddsoddwr sy’n chwilio am elw hirdymor, yn fusnes sy’n chwilio am gyfleoedd i dyfu, neu’n unigolyn sy’n edrych am y cam nesaf gwych yn eich gyrfa neu’ch bywyd, mae Rhanbarth De-orllewin Cymru yn ddewis rhagorol ac yn barod i’ch croesawu gyda breichiau agored.