Gan dyfu o lwyddiant buddsoddiad yn y Parthau Bwyd a Busnes, mae Dwyrain Cross Hands yn cynnwys tua 10 hectar o leiniau sy’n barod i’w datblygu.
Mae 13 o leiniau ar gael ar unwaith yn amrywio o ran maint o 0.13 hectar i 0.67 hectar. Mae gan bob llain fynediad at garthffosydd dŵr budr a dŵr arwyneb, trydan, nwy a dŵr o’r prif gyflenwad. Mae pibelli band eang deuol wedi'u hymgorffori i ganiatáu hyblygrwydd i ddatblygwyr yn eu dewis o gyflenwyr. Disgwylir i ôl troed y datblygiad gwmpasu 35-45% o bob llain.
Mae’r safle wedi ei anelu at dargedu’r sectorau datblygu allweddol yng Nghymru a thu hwnt, a bydd yn sicr yn darparu amgylchedd masnachol o ansawdd uchel a fydd yn cynnig cyfleoedd sylweddol am gyflogaeth a datblygu i lawer.