Telerau ac amodau

Cyffredinol

Mae gwefan Cyd-Bwyllgor Corfforedig De Orllewin Cymru yn eiddo i Gyd-Bwyllgor Corfforedig De Orllewin Cymru ac yn cael ei chynnal ar gyfer eich defnydd personol a’ch gwylio.

Mae mynediad at a defnydd o wefan Cyd-Bwyllgor Corfforedig De Orllewin Cymru, sy’n cynnwys y telerau ac amodau, yn golygu eich bod chi (y Defnyddiwr) yn derbyn y telerau ac amodau hyn, sy’n dod i rym o’r dyddiad y byddwch yn defnyddio’r wefan hon gyntaf. Rydym yn cadw’r hawl i ddiwygio’r telerau a’r amodau hyn ar unrhyw adeg heb rybudd. Os bydd adolygiad yn digwydd, bydd y telerau ac amodau diwygiedig yn cael eu harddangos ar y tudalennau hyn, a bydd defnydd parhaus o wefan Cyd-Bwyllgor Corfforedig De Orllewin Cymru ar ôl gwneud y fath ddiwygiad yn golygu eich bod yn derbyn y telerau ac amodau diwygiedig.

Cysylltiadau â Gwefannau Eraill

Mae Cyd-Bwyllgor Corfforedig De Orllewin Cymru yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y cysylltiadau hyperdestun o’r wefan hon i wefannau eraill a weithredir gan endidau eraill yn berthnasol ac yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol.

Os byddwch yn mynd i mewn i unrhyw un o’r gwefannau cysylltiedig hyn, byddwch yn gadael gwefan Cyd-Bwyllgor Corfforedig De Orllewin Cymru, a byddwch yn gwneud hynny ar eich menter eich hun. Chi sy’n gyfrifol am gymryd unrhyw fesurau angenrheidiol i warchod rhag firysau a/neu god maleisus neu lygryddion eraill.

Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys y gwefannau cysylltiedig hyn na dibynadwyedd unrhyw wybodaeth a ddarperir ynddynt, ac nid ydym yn derbyn unrhyw atebolrwydd o gwbl (boed yn gyfreithiol neu fel arall) am unrhyw golled neu iawndal, gan gynnwys heb gyfyngiad unrhyw golled neu iawndal anuniongyrchol neu ganlyniadol, sy’n deillio o neu’n gysylltiedig â defnyddio unrhyw un o’r gwefannau cysylltiedig hyn.

Ni ddylid ystyried cynnwys hypergysylltiadau i wefannau eraill, mewn unrhyw ffordd, fel cymeradwyaeth gennym ni i’r gwefannau hynny.

Amddiffyn rhag firws

Rydym yn gwneud pob ymdrech i wirio a phrofi deunydd ym mhob cyfnod cynhyrchu. Mae bob amser yn ddoeth i chi rhedeg rhaglen gwrthfeirws ar bob deunydd a ddadlwythir o'r Rhyngrwyd. Ni allwn dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw golled, amhariad neu ddifrod i'ch data neu'ch system gyfrifiadurol a all ddigwydd tra'n defnyddio deunydd sy'n deillio o'r Wefan hon.

Hawlfraint

Mae’r deunyddiau a welir ar y wefan hon, gan gynnwys heb gyfyngiad unrhyw destun, logo, eiconau, ffotograffau a gwaith celf arall, yn ddeunyddiau hawlfraint i Gyd-Bwyllgor Corfforedig De Orllewin Cymru oni nodir yn wahanol. Gellir defnyddio’r deunydd hwn sy’n ddiogelir gan hawlfraint heb ein caniatâd, ar yr amod nad yw’n cael ei atgynhyrchu, ei addasu na’i ddefnyddio at unrhyw ddibenion masnachol nac er elw ariannol. Dim ond gyda’n caniatâd ysgrifenedig penodol y gellir gwneud defnydd masnachol o’r deunydd hwn.

Nid yw’r caniatâd i ddefnyddio deunyddiau hawlfraint ar y wefan hon yn ymestyn i unrhyw ddeunyddiau a ddynodir fel hawlfraint trydydd parti. Ar gyfer deunydd o’r fath, rhaid cael caniatâd gan berchennog yr hawlfraint berthnasol cyn ei ddefnyddio.

Ansawdd Data

Mae Cyd-Bwyllgor Corfforedig De Orllewin Cymru yn ymrwymedig i ddarparu safon uchel o ansawdd yn y wybodaeth a gyflwynir ar y wefan hon, a gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth hon yn gywir ac yn gyfredol. Os ydych yn credu bod unrhyw wallau neu wybodaeth sydd wedi dyddio ar y wefan hon, anfonwch neges atom gan ddefnyddio ein ffurflen gyswllt.

Awdurdodaeth Gyfreithiol

Bydd y Telerau ac Amodau hyn eu llywodraethu a'u dehongli yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr. Bydd unrhyw anghydfod sy'n codi o dan y Telerau ac Amodau hyn yn ddarostyngedig i awdurdodaeth unigryw llysoedd Cymru a Lloegr.