1,800
o swyddi amcangyfrifedig
£60 miliwn
o fuddsoddiad
Mae menter Ardal Forol Doc Penfro yn brosiect trawsnewidiol i Gymru a gweddill y DU gan greu cyfleoedd clir i ddiwydiant ar arfordir gorllewinol Cymru. Bydd yn sefydlu canolfan o safon fyd-eang ar gyfer egni morol a pheirianneg, lle bydd ffocws ar ddarparu ymchwil a datblygu blaengar yn y diwydiant a manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd ar gyfer effeithlonrwydd gweithredol. Bydd Ardal Forol Doc Penfro yn helpu i sbarduno twf technolegau egni morol di-garbon, gan gefnogi datblygwyr ar eu taith drwy’r broses o ddylunio, profi, adeiladu a defnyddio eu dyfeisiau, tra hefyd yn darparu cyfleoedd ar gyfer arloesi diwydiannol ar draws y sectorau glas a gwyrdd.
Bydd Ardal Forol Doc Penfro yn darparu’r cyfleusterau, y gwasanaethau a’r gofodau sydd eu hangen i sefydlu canolfan o safon fyd-eang ar gyfer peirianneg forol. Er y bydd iddi berthnasedd ar draws diwydiannau, mae ei ffocws uniongyrchol ar y sector ynni carbon isel. Ariennir y datblygiad £60 miliwn hwn gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe, Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, a thrwy fuddsoddiad preifat.
Ardaloedd prosiect
-
1
Canolfan Ragoriaeth Peirianneg Ynni Morol (MEECE)Darperir gan: ORE Catapult
Pwrpas: Ymchwil, cefnogi a datblygu ac arddangos, ysgogi arloesedd yn ygadwyn gyflenwi a lleihau cost ynni. -
2
Datblygiadau Porthladd PenfroDarperir gan: Porthladd Aberdaugleddau
Pwrpas: Creu mannau sy'n helpu diwydiant i gynhyrchu, lansio a chynnal dyfeisiau -
3
Ardal Prawf Ynni Morol (META)Darperir gan: Ynni Morol Cymru
Pwrpas: Hwyluso profi cydrannau, is-gydosod a dyfeisiau trwy ddefnyddio meysydd prawf a bennwyd ymlaen llaw er mwyn lleihau’r amser, y gost a’r risgiau a wynebir a chyflymu twf yn y sector. -
4
Parth Arddangos Sir Benfro (PDZ)
Darperir gan: Celtic Sea Power
Pwrpas: Galluogi isadeiledd adnewyddadwy alltraeth i sbarduno’r defnydd o wynt alltraeth a chyfleoedd ynni morol yn y Môr Celtaidd.