Mae Pentre Awel yn gampws arloesi iechyd 83 erw gwerth £219M ar hyd Llwybr Arfordirol y Mileniwm.
Fel prosiect angor Bargen Ddinesig Bae Abertawe, mae’n cyfuno’r GIG, ymchwil prifysgol, parthau entrepreneuriaid, byw â chymorth a seilwaith lles, i gyd mewn un cyrchfan cysylltiedig a chynaliadwy.
Mae Pentre Awel wedi’i gynllunio i integreiddio cyfleusterau hamdden, busnes, iechyd, ymchwil, addysg, byw â chymorth a gwesty mewn un lleoliad. Wedi’i seilio ar gysyniad Gweithio-Dysgu-Byw-Chwarae, bydd Pentre Awel yn creu ‘ecosystem’ unigryw ar gyfer iechyd a gwyddorau bywyd ar draws 4 parth y gellir eu datblygu:
- Parth 1 (Canolfan): Cyfleusterau hamdden, addysg, ymchwil, gofal iechyd a datblygu busnes.
- Parth 2: Cartref nyrsio/preswyl, gofal ychwanegol a byw â chymorth
- Parth 3: Cyfleusterau byw â chymorth a datblygu busnes
- Parth 4: Gwesty a Thai
Fel datblygiad cymysg ei ddefnydd, mae Pentre Awel yn cynnig cyfleoedd ar draws sawl sector. Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin yn croesawu mynegiadau o ddiddordeb gan ddatblygwyr, buddsoddwyr, gweithredwyr a busnesau.