Mae Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru wedi lansio galwad am fynegiant o ddiddordeb ar gyfer prosiectau cyfalaf mwy a all helpu i sbarduno twf economaidd cynaliadwy ar draws y rhanbarth.

Bydd y prosiectau yn werth mwy na £500,000 a dylent ddangos effaith economaidd ranbarthol glir.

Mae'r cyfle ariannu yn cael ei gyflwyno drwy Gronfa Twf Lleol Llywodraeth Cymru ac mae wedi'i anelu at brosiectau sy'n cefnogi blaenoriaethau gan gynnwys twf ac arloesedd busnes, sgiliau a chyflogaeth, a gwelliannau i isadeiledd rhanbarthol.

Rhaid i gynigion cymwys gyd-fynd â blaenoriaethau Cynllun Cyflawni Economaidd Rhanbarthol De-orllewin Cymru a Chronfa Twf Lleol Llywodraeth Cymru, wrth ddangos bod modd eu cyflawni, dichonoldeb ariannol, etifeddiaeth tymor hir a chynaliadwyedd amgylcheddol.

Meddai'r Cynghorydd Rob Stewart, Cadeirydd Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru, "Mae hwn yn gyfle cyffrous i ddatgloi buddsoddiad mewn prosiectau uchelgeisiol a all wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n heconomi ranbarthol.

"Rydym am glywed gan sefydliadau, busnesau a phartneriaid arloesol sydd â syniadau a all hybu cynhyrchiant, cefnogi swyddi a sgiliau, cryfhau isadeiledd a helpu i greu twf cynaliadwy tymor hir ledled de-orllewin Cymru.

"Mae gan y rhanbarth gryfderau a photensial enfawr. Gall y cyllid hwn helpu i gyflwyno prosiectau a fydd yn cefnogi ein cymunedau, yn creu cyfleoedd ac yn cyfrannu at ddyfodol cryfach a mwy ffyniannus."

Ceisir mynegiannau o ddiddordeb ar gyfer prosiectau y gellir eu cwblhau erbyn mis Rhagfyr 2028. Nid yw'r cam presennol yn gais ffurfiol am gyllid, ond gellir gwahodd cynigion llwyddiannus i symud ymlaen i gam cyflwyno cais llawn a bydd yn destun diwydrwydd dyladwy.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw 31 Hydref 2026.

Mae rhagor o wybodaeth a'r ffurflen mynegi diddordeb ar gael ar wefan Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru.

Mae Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru yn dwyn ynghyd awdurdodau lleol Sir Gaerfyrddin, Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a Sir Benfro, gan weithio mewn partneriaeth ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, i gydweithio ar y materion mawr, strategol sy'n llunio dyfodol y rhanbarth.