Ynglŷn â'r cyfle

Mae Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru yn gwahodd mynegiannau o ddiddordeb gan arweinwyr profiadol yn y sector preifat i weithredu fel Ymgynghorwyr i'w Fwrdd Ymgynghorol Sector Preifat. Bydd y Bwrdd yn rhoi gwybodaeth sector preifat amserol, her adeiladol, gwybodaeth am y farchnad a chefnogaeth lysgenhadol i helpu i lunio blaenoriaethau rhanbarthol ar draws llesiant economaidd, ynni, trafnidiaeth, cynllunio strategol, a chyfleoedd buddsoddi cysylltiedig.

Rôl ymgynghorol yw hon lle na wneir penderfyniadau. Bydd ymgynghorwyr yn helpu i brofi polisi newydd, cyflawni a chynigion buddsoddi yn y camau cynnar, cyfrannu gwybodaeth ymarferol am y sector, a chryfhau cysylltiadau â busnesau, buddsoddwyr, cyllidwyr a rhwydweithiau partner lle gall hyn ychwanegu gwerth at y rhanbarth.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau – 2 Hydref 2026

Rôl Ymgynghorwyr y Bwrdd

Bydd disgwyl i Ymgynghorwyr y Bwrdd gyfrannu'n strategol ac yn adeiladol at waith Bwrdd Ymgynghorol y Sector Preifat. Gall hyn gynnwys darparu gwybodaeth am y farchnad, nodi cyfleoedd a risgiau, profi cynigion strategol, cyfrannu at grwpiau gorchwyl a gorffen, a bod yn llysgenhadon dros Dde-orllewin Cymru trwy rwydweithiau busnes, sector a chenedlaethol perthnasol.

Bydd penodiadau fel arfer am gyfnod penodol o ddwy flynedd, gyda'r opsiwn o adnewyddu lle bo cyfraniad, presenoldeb ac addasrwydd strategol yn parhau i fod yn gryf. Bydd y Bwrdd fel arfer yn cyfarfod bob chwarter, ond trefnir sesiynau ffocws ychwanegol os oes mater strategol penodol, cynnig buddsoddi neu gyfle yn codi lle mae gofyn cael cyngor amserol y sector preifat.

Pwy ydyn ni'n chwilio amdano

Rydym yn chwilio am leisiau amlwg o'r sector preifat sydd â hygrededd, profiad ymarferol o gyflawni, a'r gallu i ddarparu mewnwelediad strategol ar draws un neu fwy o flaenoriaethau'r rhanbarth.

Dewisir ar sail sgiliau, profiad, cyfraniad, cysondeb â blaenoriaethau rhanbarthol, cydbwysedd daearyddol a sector, amrywiaeth persbectif, a'r gallu i ychwanegu gwerth at raglen waith y Bwrdd.

  • Llesiant economaidd

    • Ynni, Sero Net a'r Economi Werdd

    • Gweithgynhyrchu, technoleg a deunyddiau

    • Lechyd a gwyddorau bywyd

    • Yr economi profiad, gan gynnwys twristiaeth, diwylliant ac economi ymwelwyr

    • Sectorau creadigol a digidol

    • Technolegau amaethyddol a chynhyrchu bwyd gwerth uchel

  • Trafnidiaeth a chysylltedd

  • Cynllunio strategol a defnydd tir

Y Broses ddethol

Bydd mynegiadau o ddiddordeb yn cael eu hadolygu yn erbyn gofynion sgiliau a chynrychiolaeth y Bwrdd, gan gynnwys arbenigedd sector, profiad strategol, cyfraniad at flaenoriaethau rhanbarthol, daearyddiaeth, statws, persbectif buddsoddwr neu farchnad, ac amrywiaeth o ran cefndir a ffordd o feddwl.

Efallai y bydd ymgeiswyr sydd ar y rhestr fer yn cael eu gwahodd i drafod eu diddordeb ymhellach cyn i Gyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru gadarnhau'r penodiadau.

Datganiad

Pe byddech yn gwneud cais am y swydd hon byddech yn ymrwymo i'r egwyddorion fel y'u nodir yn Atodiad 1.

Gofynnir i'r holl Ymgynghorwyr a benodir lofnodi Cytundeb Ymgynghorwyr yn eu gorfodi i gydymffurfio ag egwyddorion sylfaenol y Côd Ymddygiad Aelodau y mae'n rhaid i aelodau cyfetholedig gytuno iddynt.

Sut i fynegi diddordeb

Dychwelwch y ffurflen ar-lein hon wedi i chi ei chwblhau.

Os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl cyn mynegi diddordeb, cysylltwch â chris.owen@southwestcjc.gov.wales.

Hysbysiad Preifatrwydd

Mae Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru yn prosesu gwybodaeth bersonol at ddibenion recriwtio, penodi a llywodraethu yn unol â'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data 2016 (UK GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018.

Mae gan unigolion y mae eu data personol yn cael ei brosesu yr hawl i ofyn am fynediad i'w gwybodaeth, gofyn am gywiro data anghywir, a gwneud cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth os ydynt yn anfodlon â'r ffordd y mae eu gwybodaeth wedi cael ei thrin.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru yn gwerthfawrogi ac yn dathlu amrywiaeth, ac mae wedi ymrwymo i greu amgylchedd cynhwysol i bawb. Rydym yn annog ceisiadau gan bobl o bob cefndir a phrofiad. Bydd pob cais yn cael ei ystyried yn deg ac yn cael ei asesu ar sail teilyngdod yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010 a Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus.

Yr Iaith Gymraeg

Gellir cyflwyno ceisiadau yn y Gymraeg neu'r Saesneg ac ni fydd ceisiadau yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol.

Hygyrchedd ac Addasiadau Rhesymol

Mae Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru wedi ymrwymo i ddarparu proses recriwtio gynhwysol a hygyrch. Rhowch fanylion am unrhyw addasiadau rhesymol y gallai fod eu hangen arnoch i gefnogi eich cyfranogiad yn y broses ymgeisio a/neu'r cyfweliad.

Atodiad 1: Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus - Egwyddorion Nolan