Gallai'r rhaglen genedlaethol fawr hon, sy'n cael ei chyflawni gan UK Research and Innovation a'i harwain gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot ar ran y rhanbarth, ddatgloi hyd at £20 miliwn i dde-orllewin Cymru gyflymu arloesi ar draws dau o'i sectorau cryfaf: ynni glân a deunyddiau uwch.
Beth mae hyn yn ei olygu i dde-orllewin Cymru:
- Diogelu ffynonellau ynni - Bydd cyllid yn cefnogi arloesi ym maes gwynt ar y môr, hydrogen ac ynni diwydiannol glanach, gan adeiladu ar seilwaith porthladdoedd strategol y Rhanbarth.
- Diogelu deunyddiau - Bydd buddsoddiad yn helpu i ddatblygu ffyrdd newydd o adfer, ailgylchu a phrosesu deunyddiau hanfodol, gan leihau'r ddibyniaeth ar fewnforion a chryfhau cadwyni cyflenwi.
- Twf a arweinir gan arloesi - Nod y gronfa yw creu swyddi o ansawdd uchel, rhoi hwb i gynhyrchiant a denu buddsoddiad cyhoeddus a phreifat pellach i'r rhanbarth.
Cefnogodd awdurdodau lleol Castell-nedd Port Talbot, Abertawe, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro — gan weithio ochr yn ochr â busnesau a sefydliadau ymchwil — y cais llwyddiannus, gan ddangos cydweithrediad rhanbarthol cryf ac ymrwymiad ar y cyd i ddiwydiannau cynaliadwy a chyfleoedd economaidd hirdymor.
Mae'r cyhoeddiad hwn yn nodi cam mawr arall ymlaen i'r rhanbarth, a hynny dim ond pythefnos ar ôl lansio Prosbectws Buddsoddi Rhanbarthol Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru, sy'n cyflwyno gweledigaeth feiddgar ar gyfer twf cynaliadwy a gefnogir gan amrywiaeth o gyfleoedd buddsoddi strategol sydd ar y gweill.