Bydd Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru (SWWCJC) yn datgelu ei Brosbectws Buddsoddi Rhanbarthol cyntaf heddiw yn Fforwm Buddsoddi a Seilwaith Eiddo Tirol y DU (UKREiiF) yn Leeds, gan nodi carreg filltir bwysig yn strategaeth datblygu economaidd hirdymor y rhanbarth.

Mae de-orllewin Cymru yn rhanbarth sydd â sylfeini cadarn a dyfodol cryf, ac mae'r prosbectws yn arddangos ei weledigaeth uchelgeisiol ar gyfer denu buddsoddiad cynaliadwy ar draws Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe. Mae'n tynnu sylw at bortffolio amrywiol o gyfleoedd strategol ar draws ystod o sectorau gan gynnwys ynni glân, gweithgynhyrchu uwch, arloesi, twristiaeth, a seilwaith - a hynny i gyflymu twf, creu swyddi o ansawdd uchel, a chefnogi'r trawsnewid i economi sero net.

Mae'r prosbectws, sydd wedi'i ddatblygu mewn cydweithrediad â'r awdurdodau lleol, partneriaid yn y diwydiant a rhanddeiliaid rhanbarthol, yn darparu golwg glir a chydgysylltiedig i fuddsoddwyr o gryfderau, asedau a photensial y rhanbarth yn y dyfodol. Mae hefyd yn amlinellu cyfres o brosiectau y gellir buddsoddi ynddynt sy'n cyd-fynd â chyfrifoldebau statudol Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru ar gyfer cynllunio strategol, trafnidiaeth a llesiant economaidd.

Mae lansio'r prosbectws hwn yn gam sylweddol ymlaen i gryfhau gweithio rhanbarthol er mwyn sicrhau bod de-orllewin Cymru yn parhau i fod yn gystadleuol ac yn gydnerth mewn tirwedd economaidd sy'n newid yn gyflym.

Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart, Cadeirydd SWWCJC:

Ar gyfer ymholiadau gan y cyfryngau, cyflwynwch ein ffurflen gyswllt.