Heol Ffynnon Job yw'r prif gampws ar gyfer celf a dylunio yn y coleg ac mae'n gartref i Ysgol Gelf Caerfyrddin. Mae gan yr Ysgol hanes sy'n dyddio'n ôl i 1854. Mae'r campws yn gyfleuster celf a adeiladwyd at y diben ac o ganlyniad mae ganddo awyrgylch ysgol gelf unigryw a chyfeillgar, sy'n ymroddedig i weithgareddau celf a dylunio.
Mae PCYD yn chwilio am Bartner datblygu i ailddychmygu Campws Caerfyrddin, PCYD. Er mwyn sicrhau cyfleusterau addysgol o'r radd flaenaf, sy'n addas ar gyfer y dyfodol. Bydd y cyfleusterau'n cynnwys llety i fyfyrwyr ac yn ategu'r cyfleusterau addysg Drydyddol eraill yng Nghaerfyrddin. Mae'n debyg y bydd y prosiect yn darparu cyfleoedd ar gyfer datblygiadau cyflenwol.