Mae Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru yn dwyn ynghyd bedwar awdurdod lleol, sef Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe, ynghyd ag Awdurdodau Parciau Cenedlaethol Arfordir Penfro a Bannau Brycheiniog, i gydlynu camau gweithredu strategol ar faterion sy'n croesi ffiniau ac sy'n gofyn am ddull rhanbarthol. Drwy'r bartneriaeth hon, mae'r Pwyllgor yn helpu i droi uchelgais ranbarthol gyffredin yn gyflawniadau ym meysydd datblygu economaidd, ynni, trafnidiaeth a chynllunio strategol.
Mae De-orllewin Cymru yn rhanbarth mawr, sydd â gallu a chyfle sylweddol. Tynnodd y digwyddiad sylw at sut mae partneriaid yn gweithio gyda'i gilydd i ddatgloi buddsoddiad, cefnogi swyddi o ansawdd uchel, cyflymu'r broses o newid i economi carbon isel ac adeiladu cymunedau cryfach, mwy cysylltiedig ledled y rhanbarth. Roedd y prif gyflwyniadau yn edrych ar flaenoriaethau strategol ac yn nodi meysydd lle bydd cefnogaeth barhaus gan y sector cyhoeddus a phreifat yn hanfodol er mwyn sicrhau effaith ranbarthol hirdymor.
Clywodd y cynadleddwyr gyflwyniadau gan arweinwyr rhanbarthol, gan gynnwys y Cynghorydd Linda Evans, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin a Chadeirydd yr Is-bwyllgor Trafnidiaeth Rhanbarthol, a'r Cynghorydd Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe a Chadeirydd Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru.
Drwy gydol y bore, clywodd y rhai a oedd yn bresennol am y rhaglenni rhanbarthol allweddol sy'n siapio De-orllewin Cymru, ac roedd y drafodaeth yn canolbwyntio ar y cyfleoedd sydd o'n blaenau a'r heriau ymarferol y mae'n rhaid mynd i'r afael â nhw er mwyn cyflawni dros gymunedau, busnesau a chenedlaethau'r dyfodol.
Roedd y sesiynau'n rhoi sylw i Gynllun Cyflawni Economaidd Rhanbarthol De-orllewin Cymru, sy'n nodi gweledigaeth ar gyfer economi wydn a chynhwysol, gan gefnogi cyflogaeth o ansawdd uchel, twf busnes, arloesedd a ffyniant hirdymor ar draws dinasoedd, trefi, cymunedau gwledig ac ardaloedd arfordirol y rhanbarth.
Clywodd y cynrychiolwyr hefyd am Strategaeth Ynni Ranbarthol De-orllewin Cymru ac uchelgais y rhanbarth i ddatblygu system ynni sero net a fydd yn cefnogi twf glanach, gwydnwch ynni, sgiliau newydd a chyfleoedd buddsoddi wrth drawsnewid sut mae ynni'n cael ei gynhyrchu, ei ddefnyddio a'i reoli ledled De-orllewin Cymru.
Rhoddodd y digwyddiad sylw i Gynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol De-orllewin Cymru, gan nodi sut y gall buddsoddiad mewn trafnidiaeth gynaliadwy, hygyrch ac integredig wella cysylltedd, cefnogi twf economaidd, ehangu mynediad at gyflogaeth a gwasanaethau, a helpu'r rhanbarth i symud tuag at ddyfodol carbon isel.
Roedd y sesiwn olaf yn canolbwyntio ar Gynllun Datblygu Strategol De-orllewin Cymru a fydd yn darparu fframwaith hirdymor ar gyfer tai, cyflogaeth, seilwaith a gwasanaethau, gan helpu i gefnogi lleoedd cynaliadwy wrth ymateb i newid yn yr hinsawdd a diogelu asedau naturiol a diwylliannol unigryw'r ardal.
Nod y digwyddiad oedd gwella dealltwriaeth o rôl y Cyd-bwyllgor Corfforedig a sicrhau bod gwleidyddion a rhanddeiliaid yn gymwys i hyrwyddo blaenoriaethau'r rhanbarth o fewn Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Roedd y digwyddiad hefyd yn gyfle i bartneriaid gryfhau perthnasoedd, nodi cyfleoedd i gydweithio a gwneud yr achos dros fuddsoddiad parhaus a chymorth polisi i helpu De-orllewin Cymru i gyflawni canlyniadau o arwyddocâd cenedlaethol.
"Mae gan Dde-orllewin Cymru yr asedau, y partneriaethau a'r uchelgais i sicrhau twf o arwyddocâd cenedlaethol. Drwy gydweithio ar draws ffiniau awdurdodau lleol, rydym yn cryfhau llais y rhanbarth, yn denu buddsoddiad, yn cefnogi ein cymunedau ac yn cynllunio ar gyfer dyfodol mwy cynaliadwy. Mae ein neges yn glir: mae De-orllewin Cymru yn barod i gyflawni, a bydd cydweithio parhaus â'r Llywodraeth, partneriaid a buddsoddwyr yn hanfodol i droi ein huchelgeisiau cyffredin yn effaith barhaol."Rob Stewart, Cadeirydd Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru ac Arweinydd Cyngor Abertawe
"Mae Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru yn dangos fwyfwy sut y gall cydweithio rhanbarthol gefnogi cynllunio mwy cydgysylltiedig, partneriaethau cryfach a gwell aliniad strategol rhwng blaenoriaethau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol – megis ein huchelgais i ysgogi cynhyrchiant a gwireddu potensial llawn economi Cymru. "Mae'r digwyddiad arddangos hwn yn tynnu sylw at allu cynyddol y rhanbarth i ddatblygu a chyflawni gweledigaeth ranbarthol glir a chyfres o gyfleoedd ym meysydd datblygu economaidd, trafnidiaeth, cynllunio strategol a buddsoddiad."Adam Price, y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni